Siarad am CPR – Trafod DNACPR
Fideos Siarad am CPR

Siarad am CPR – Trafod DNACPR

Byw Nawr - Live Now

Nod SIARAD AM CPR yw annog pobl i siarad am Adfywio’r Galon a’r Ysgyfaint (CPR) ar gyfer pobl yr effeithir arnynt gan salwch lliniarol, sy’n cyfyngu bywydau. Mae Peidiwch â Dechrau Adfywio’r Galon a’r Ysgyfaint (DNACPR) yn rhan bwysig o gynllunio gofal ymlaen llaw, a gall helpu i leihau gofid yn ddiweddarach.

 

To watch this video in English visit www.TalkCPR.wales

Croeso: Siarad am CPR

Ymgyrch ymwybyddiaeth ydy Siarad am CPR ar y cyd â Dying Matters in Wales – Byw Nawr (Live Now).  Y nod ydy creu ymwybyddiaeth ymlaen llaw am benderfyniadau CPR a DNACPR, a chyfeirio pobl yr effeithir arnynt gan gyflyrau sy’n cyfyngu ar fywydau at adnoddau a gwybodaeth yng Nghymru a thu hwnt. Mae yna ychydig o fideos sy’n esbonio beth ydy Adfywio’r Galon a’r Ysgyfaint, a’r hyn nad ydyw, pa mor llwyddiannus ydyw, a pham y mae rhai pobl yn awyddus i drafod hyn gyda’u meddyg cyn iddo ddod yn angenrheidiol.

 

Gallai CPR gynnwys:

  • Gwthio i lawr yn drwm ar eich brest drosodd a throsodd

  • Defnyddio mwgwd neu diwb arbennig i’ch helpu i anadlu.

  • Defnyddio cerrynt trydan o ddiffibriliwr i geisio ailddechrau eich calon.

  • Defnyddio meddyginiaeth, sydd yn aml yn cael ei roi i mewn i’r gwythiennau, er mwyn helpu i ailddechrau eich calon.

To view the English speaking version of this website visit www.TalkCPR.wales