Gall CPR fod yn llwyddiannus, ac mae’n bwysig cofio ei fod wedi datblygu o ran soffistigeiddrwydd ac effeithiolrwydd dros y degawdau diwethaf. Ond nid yw’r rhan fwyaf o bobl, yn enwedig y rhai hynny sydd â chyflyrau fel canser neu glefyd y galon neu’r arennau datblygedig, yn goroesi CPR ac yna, mae’n dod yn ymyriad ar ddiwedd bywyd rhywun. Dyma pam mae rhai pobl yn hoffi trafod y mater pan fyddant yn cynllunio ar gyfer eu gofal yn ystod dyddiau, wythnosau, misoedd neu hyd yn oed flynyddoedd olaf eu bywyd.
Isod, gellir gweld rhai o’r cwestiynau mwyaf cyffredin ynghylch CPR. Cliciwch ar unrhyw rai o’r cwestiynau nad ydych yn gwybod yr ateb iddynt.
- Ydy pawb yn dychwelyd i normal ar ôl CPR?
- Ydyn nhw’n rhoi CPR i bawb y mae eu calon a’u hanadlu wedi stopio?
- Pwy sy’n gwneud y penderfyniadau os na allaf i eu gwneud?
- Beth ddylwn i ei wneud os nad ydw i eisiau cael CPR?
- Beth os ydw i eisiau cael CPR, ond bod fy meddyg yn dweud na fydd yn gweithio?
- Pan fydd penderfyniad i beidio â dechrau CPR wedi’i wneud?
- Beth os fyddaf adref?
- Beth syn digwydd os fyddaf yn cael fy ngyrru adref o’r ysbyty?
- Beth sy’n digwydd os fydd fy sefyllfa’n newid neu os fyddaf yn newid fy meddwl?
- A gaf i weld beth sydd wedi ei ysgrifennu am CPR?
