Ydy pawb yn dychwelyd i normal ar ôl CPR?

Yn anffodus, nid yw’r mwyafrif o bobl yn goroesi ataliad y galon. Mae’r rhai hynny sydd â phroblemau meddygol cymhleth yn llawer llai tebygol o wella’n iawn. Mae’n bwysig eich bod yn gwybod:

Bod cleifion yn aml yn sâl iawn iawn ar ôl CPR, a’i bod yn debygol y byddan nhw angen mwy o driniaeth mewn uned gofal coronaidd neu uned gofal dwys.

Nid yw’r mwyafrif o gleifion yn dychwelyd i’r cyflwr iechyd corfforol na meddyliol yr oedd ganddynt cyn cael CPR. Mae’n bosibl y bydd angen llawer o adsefydlu ar rai.