Beth ddylwn i ei wneud os nad ydw i eisiau cael CPR?

  • Os nad ydych chi eisiau i unrhyw un ddechrau CPR, dywedwch wrth eich tîm gofal iechyd. Mae’n rhaid iddyn nhw gadw at eich dymuniadau.
  • Ystyriwch roi gwybod am eich dymuniad wrth y bobl agosaf atoch, er mwyn iddyn nhw ddweud wrth eich tîm gofal iechyd os gofynnir iddyn nhw.
  • Gallwch wneud penderfyniad ymlaen llaw drwy nodi eich dymuniadau ar bapur. Os ydych chi wedi llenwi dogfen penderfynu ymlaen llaw neu ‘Advance Care Plan’ (ACP, gweler enghraifft yma: http://wales.pallcare.info/ipads/racpap.pdf, cofiwch wneud yn siŵr fod pob aelod o’ch tîm gofal iechyd yn derbyn copi.

 

Os byddwch chi’n newid eich meddwl, dylech ddweud wrth yr Uwch Feddyg neu Nyrs cyn gynted â phosibl.