Mae nifer o gleifion sy’n marw, yn dewis marw adref. Hyd yn oed os bydd y bobl sy’n agos atoch yn gwybod nad ydych chi eisiau cael CPR, mae’n bosibl y byddan nhw’n teimlo y dylent alw ambiwlans os byddant yn pryderu amdanoch chi..
Os fydd y criw ambiwlans neu weithiwr iechyd proffesiynol yn cael gwybod bod gennych ffurflen DNACPR adref, mae’n rhaid iddyn nhw barchu eich dymuniad. Byddan nhw’n eich gwneud mor gyfforddus â phosibl. |