Os fyddwch chi wedi penderfynu nad ydych chi eisiau iddyn nhw ddechrau CPR, neu os bydd eich meddyg yn siŵr na fydd yn gweithio, bydd hyn wedi’i nodi ar ffurflen ‘Peidiwch â Dechrau Adfywio’r Galon a’r Ysgyfaint’ (ffurflen DNACPR). Bydd hon yn cael ei chadw gyda’ch cofnodion iechyd.
Dim ond am CPR yn unig y mae’r penderfyniad hwn. Byddwch chi’n cael unrhyw driniaeth arall sydd ei angen i’ch cadw mor iach a chyfforddus ag sy’n bosibl.
Bydd eich tîm gofal iechyd yn parhau i gynnig y gofal a’r driniaeth gorau i chi yn ôl eich angen.