Beth os ydw i eisiau cael CPR, ond bod fy meddyg yn dweud na fydd yn gweithio?

Pan fyddwch chi’n trafod CPR, mae’n bosibl y bydd eich meddyg yn dweud na fydd CPR yn gweithio i chi.

  • .Ni fydd unrhyw feddyg yn gwrthod eich dymuniad i gael CPR os oes siawns teg y gallai fod yn effeithlon.
  • Os bydd eich tîm gofal iechyd yn teimlo na fydd CPR yn gweithio i chi, gallwch ofyn iddyn nhw drefnu cael ail farn feddygol os byddwch yn dymuno cael un.
  • Os mai’r farn yw y gallai CPR eich gwneud yn hynod sâl neu anabl, bydd eich barn a ddylid cymryd y siawns hwn ai peidio yn hynod bwysig. Rhaid i’ch tîm gofal iechyd wrando ar eich barn ac ar farn unrhyw un yr hoffech chi i fod yn rhan o’r drafodaeth.
  • Dylech chi a’r rhai hynny sydd agosaf atoch fod yn ymwybodol nad oes unrhyw hawl gyfreithiol i fynnu unrhyw driniaeth na fydd yn gweithio.