Ymyrraeth frys ydy CPR (Adfywio’r Galon a’r Ysgyfaint), sy’n ceisio ailgychwyn eich calon (a’i rythm normal a’i ffordd o bwmpio) a’ch anadlu. Mae CPR yn ymyrraeth rymus sy’n defnyddio triniaethau sioc trydanol a chywasgu’n ddwfn i mewn i’r frest (yn defnyddio dwy law), ac sydd hefyd yn golygu rhoi tiwbiau i mewn i’r llwybrau anadlu a chael pigiadau / dripiau. Dyma fideo o efelychiad CPR gan American Heart Association