Pwy sy’n gwneud y penderfyniadau os na allaf i eu gwneud?

Os nad ydych chi’n gallu deall yr wybodaeth a gewch am CPR a’ch bod yn methu â gwneud y penderfyniad eich hun, mae’n bosibl y bydd rhywun arall yn gallu penderfynu ar eich rhan.

O ran cleifion sy’n methu â gwneud penderfyniad oherwydd salwch neu anabledd dysgu, gellir penodi unigolyn (procsi cyfreithiol) i wneud y penderfyniad ar eich rhan. Gall procsi cyfreithiol fod yn:

  • Rhywun roeddech chi wedi’i benodi fel eich Atwrneiaeth Arhosol (LPA) ar gyfer Iechyd a Lles, neu’n
  • Rhywun y mae llys wedi’i benodi i fod yn warcheidwad lles i chi, neu’n
  • Rhywun y mae llys wedi’i benodi drwy orchymyn ymyrraeth i wneud penderfyniad unigryw (am CPR).

Bydd y meddyg bob amser yn trafod y penderfyniad gyda’r procsi cyfreithiol os bydd hyn yn bosibl.

  • Er nad yw eich teulu na’ch ffrindiau yn cael penderfynu ar eich rhan, heblaw eu bod wedi cael yr awdurdod hwn ar ffurflen LPA, bydd eich tîm gofal iechyd yn trafod gyda nhw i ddeall eich dymuniadau a’ch credoau.
  • Os ydych chi eisiau i rai pobl gael yr hawl i drafod eich gofal, ond dim eisiau i bobl eraill fedru trafod eich gofal, dylech roi gwybod i’ch tîm gofal iechyd cyn gynted â phosibl.

Click here to see an example of an advance care plan