- Os ydych chi’n ddifrifol wael ac yn agos at ddiwedd eich oes, mae’n bosibl na fydd unrhyw fudd o geisio eich adfywio, gan y bydd y galon a’r anadlu’n peidio fel rhan naturiol o farw. Yn yr achosion hyn, mae’n fwy pwysig gwneud yn siŵr nad ydych mewn unrhyw boen, yn gyfforddus, a’n bod yn rhoi cefnogaeth i chi. Mae’n bosibl y bydd CPR yn cynnig gobaith gwag, ac yn gwneud mwy o niwed na daioni drwy eich atal rhag cael marwolaeth naturiol.
- Heblaw bod eich tîm gofal iechyd a chi wedi sicrhau gorchymyn DNACPR, bydd y tîm CPR yn debygol o geisio rhoi CPR os byddan nhw’n meddwl bod cyfle i adfer. Bydd hyn yn digwydd os bydd eich calon a’ch anadlu’n peidio’n ddirybudd, er enghraifft, os byddwch chi’n cael anaf difrifol neu ataliad y galon.
- Os bydd eich anadlu a’ch calon yn peidio cyn i chi wneud penderfyniad am CPR, y meddygon sy’n gofalu amdanoch fydd yn penderfynu a ddylid dechrau CPR. Byddan nhw’n ystyried eich iechyd yn gyffredinol, pethau efallai y byddwch chi wedi’u trafod gyda nhw’n barod, barn y rhai agosaf atoch a hefyd, pa mor debygol yw hi y bydd CPR yn llwyddo.