Yn dibynnu ar y lleoliad gofal iechyd a’ch iechyd chi, mae’n bosibl y bydd Meddyg Teulu, meddyg ysbyty neu uwch nyrs yn dymuno trafod eich dymuniadau am CPR. Mae yna hefyd awydd mwy cyffredinol i siarad yn fwy agored am ddymuniadau pobl o ran lle maen nhw eisiau marw a’u dymuniadau ynghylch wythnosau neu fisoedd olaf eu bywydau. Os nad ydych chi eisiau trafod hyn, gallwch stopio’r sgwrs.
Beth os ydw i ddim eisiau siarad am CPR/ DNACPR ar hyn o bryd?
- Does dim rhaid i chi siarad am CPR os nad ydych yn dymuno gwneud hynny. Os byddwch chi’n teimlo nad ydych yn barod i siarad amdano – dywedwch hynny
- Mae’n bosibl y byddwch chi’n dymuno siarad am CPR gyda’ch teulu, ffrindiau agosaf neu ofalwyr. Mae’n bosibl y byddan nhw’n gallu eich helpu i wneud penderfyniad yr ydych chi’n gyfforddus ag ef.
- Er y gall hyn fod yn anodd, cofiwch siarad am CPR gyda’ch tîm gofal iechyd cyn gynted ag y byddwch chi’n teimlo’n gyfforddus i wneud hynny. Drwy wneud hynny, byddwch yn gwneud yn siŵr bod eich tîm gofal iechyd yn llwyr ddeall eich dymuniadau.
Dysgwch fwy am bolisi clinigol DNACPR i Gymru
Peidiwch ag aros nes bydd rhywun yn gofyn i chi.